top of page

GWASANAETHAU

CYDRADDOLDEB, YR IAITH GYMRAEG A MWY...

Mae Cwmni Elgar yn cynnig ystod o wasanaethau cyflenwol gyda ffocws ar gydraddoldeb a’r iaith Gymraeg. ​ Rydym yn gwmni dwyieithog ac rydym yn ymdrin â phob prosiect mewn modd cynhwysol.

​ Am wasanaeth ymgynghorol cyfeillgar o’r safon uchaf, wedi ei deilwra ar eich cyfer chi a’ch rhanddeiliaid cysylltwch â ni. Ni fyddwn yn gofyn am dâl am sgwrs gychwynnol.

Rydym yn cynnig:

  • Adolygiad sefydliadol i ystyried eich hunaniaeth a gwasanaethau dwyieithog

  • Cyngor ymarferol ar hybu defnydd o’r iaith Gymraeg

  • Hwyluso, ymgysylltu ac ymgynghori â sefydliadau, staff a chymunedau

  • Datblygu strategaethau a rheoli prosiectau â rhanddeiliaid amrywiol

  • Ymchwilio, gwerthuso ac ysgrifennu adroddiadau

  • Hyfforddiant a chyngor ar Asesu Effaith ar Gydraddoldeb, yr Iaith Gymraeg â Llesiant

  • Gweithdai a hyfforddiant ar oblygiadau deddfwriaeth cydraddoldeb i’ch sefydliad chi

  • Am hyfforddiant ar reoli prosiect i aelodau CGGC (WCVA) ewch i’w gwefan

  • Am gefnogaeth ar gydraddoldeb ym maes tai, cysylltwch â Tai Pawb lle rwyf yn Aelod Cyswllt

Beth mae ein cleientiaid yn dweud amdanom

'Mae gan Llio ddiddordeb brwd yn niwylliant Cymreig a phrofiad helath o weithio yn strategol yn y maes cynllunio ieithyddol. Mae hi’n berson credigol, llawn arbenigedd a brwdfrydedd ac yn gyfforddus i edrych ar waith o onglau gwahanol gan ffocysu ar ddod o hyd i’r dull mwyaf effeithiol i gwblhau’r dasg.'  

Manon Rees-O’Brien, Prif Weithredwr Menter Caerdydd a Menter Iaith Bro Morgannwg


'Profiad pleserus fu cydweithio gyda Llio ar brosiect ‘WiciMeithrin’. Llwyddodd i lywio’r gwaith yn unol â’r briff gan hefyd ein procio i feddwl yn wahanol (er gwell) ar brydiau. Buaswn yn argymell Cwmni Elgar fel cwmni cydwybodol sy’n cyflawni’r gwaith ac yn rhagori yn y dasg.'

Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin

'Roedd hyfforddiant Llio yn ddiddorol ac wedi'i baratoi'n dda. Newidiodd agwedd y mynychwyr yn sylweddol gan arwain at newidiadau materol yn y ffordd rydym yn gweithio. Bellach mae gennym ddatganiad ar yr iaith Gymraeg ar ein gwefan, rydym yn gwneud mwy o ddefnydd o'r Gymraeg yn anffurfiol, ac mae gennym ddull clir o ddarparu hyfforddiant dwyieithog a chyfrwng Cymraeg ar gyfer dyfodol. Yn fwy na hynny, mae staff nawr am ymwneud â’r iaith Gymraeg’

Pip Gwyn, Cyfarwyddwr, Insight HRC Ltd

PXL_20201129_124029287_edited_edited_edi
Gwasanaethau: Services
bottom of page